Inge Hanson

Inge Hanson

Americanes ydw i sydd wedi bod yn byw yng Nghymru ers dros ddau ddegawd gyda diddordeb cryf yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Rwyf wedi mwynhau gyrfa amrywiol wedi'i hysgogi gan chwilfrydedd a her greadigol.

Graddiais o Brifysgol Iâl ac ennill gradd yn y gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Brooklyn. Gweithiais gyda phobl ifanc yn Harlem yn rhedeg prosiect pêl fas ac addysg ieuenctid. Yn ddiweddarach bûm yn gweithio fel asiant llenyddol cyn symud i faes cynhyrchu teledu a ffilm.

Yma yng Nghymru, rwy’n gweithio fel cynhyrchydd ac ymchwilydd yn gweithio yn y diwydiant teledu Cymraeg yn y Gymraeg a’r Saesneg. Rwyf hefyd yn siarad Portiwgaleg.

Rwyf wrth fy modd yn yr awyr agored ac yn aml yn padlo-fyrddio ar yr afon Taf ac yn marchogaeth ceffyl ym Mannau Brycheiniog.

Sefydlais y sefydliad cymunedol 'Cyfeillion Gerddi Pentre' sy'n gofalu am barc yn Grangetown ac rwy'n trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer yr ardal. Yn fy amser hamdden, rwy'n mynychu grŵp llyfrau lleol ac yn dwlu ar wylio theatr a ffilm.