Bwrsari Amryw Ddiwylliant

Rhaglen Bwrsariaeth:

Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar hyrwyddo a chefnogi hygyrchedd er mwyn mynd i'r afael â'r gynrychiolaeth anghytbwys sydd yn bodoli o fewn y sector. Mae’r rhaglen 18 mis hwn yn galluogi hyfforddiant trwy gydweithio â’n Rheolwr Prosiect. Byddant yn awgrymu a rhaglennu gweithdai ac yn cynorthwyo gyda’r gweinyddu. Byddant yn cymryd rhan yn ein Grŵp Llyfrau Cyfarwyddwyr, a gefnogir gan y Young Vic. Byddant yn derbyn tair sesiwn fentora 1 awr. Ar ddiwedd y rhaglen, gofynnir i ddeiliad y bwrsariaeth arwain gweithdy 1½ awr yn seiliedig ar bwnc ddewisol (Cyfarwyddo / Actio). Bydd hwn yn gyfle i gael cynnig ar ddysgu mewn awyrgylch gefnogol.

Ceisiadau Cyllid:

Bydd Living Pictures yn cefnogi/cynghori cyfranogwyr gydag unrhyw geisiadau am gyllid celfyddydol, sy'n eu cefnogi yn ystod cyfnod y fwrsariaeth. Ni all LP warantu llwyddiant ceisiadau.

I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â lpworkshops14@gmail.com.