Stori

Ein Stori

Mae Living Pictures yn elusen sy'n darparu prosiectau i hybu sgiliau a datblygiad. Dechreuodd ein stori ym 1999 gyda ffurfio cwmni theatr newydd yn ymroddedig i ddarparu hyfforddiant cyfarwyddwyr ar adeg pan oedd cyfleoedd yn brin ar lawr gwlad. Dros amser, fe wnaethom ddatblygu i fod yn gwmni hyfforddi blaenllaw yn Llundain, Caerdydd, a rhannau eraill o'r DU. Fe wnaethom hefyd ddatblygu a theithio darnau o theatr sydd wedi ennill gwobrau yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Yn ddiweddar, roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein denu i neilltuo mwy o’n hamser i fyw a gweithio’n gynaliadwy a theimlwn ein bod wedi’n hysbrydoli, o ganlyniad uniongyrchol i’n profiad teuluol, i helpu i hyrwyddo a chefnogi pobl ifanc sy’n dysgu’n wahanol.

Ein Gwaith

Rydym yn darparu hyfforddiant a datblygiad i bobl ifanc sy'n dysgu'n wahanol a hefyd ar gyfer gwneuthurwyr theatr proffesiynol. Ar gyfer ein holl gyfranogwyr, rydym yn cynnal maes ble mae modd dysgu heb bwysau, a chynnig lle ac amser i bobl ddatblygu yn eu ffordd unigryw eu hunain.

Mae ein canolfan yn Sir Gaerfyrddin, Coed Dylan, yn darparu cyfleoedd mewn garddio cynaliadwy a mentrau seiliedig ar y tir yn ogystal â gweithdai creadigol. Ein cenhadaeth yno yw hyrwyddo cynhwysiant a meithrin sgiliau a dysgu gydol oes trwy fyd natur.

Sefydlwyd ein hyfforddiant i wneuthurwyr theatr yn Llundain yn 2001. Dros y blynyddoedd rydym wedi datblygu i fod yn ddarpariaeth flaenllaw ar gyfer hyfforddi cyfarwyddwyr yn y DU, gan gynnal hyfforddiant gyda Theatr Genedlaethol, Derby Theatre, National Theatre Scotland, Goethe Glasgow a Theatr Sherman Caerdydd. Mae ein cyrsiau Cyfarwyddo ac Actio yn dethol tiwtor gyfarwyddwyr rhyngwladol, fel ein noddwyr Mike Alfreds, Dominic Cooke MBE, Sinéad Rushe (RADA) ac Ian Rickson. Hoffem ddiolch hefyd i Katie Mitchell OBE a oedd yn noddwr a chefnogwr gychywynol i ni fel elusen.

Bob haf rydym yn cynnal encil ar gyfer gwneuthurwyr theatr yng Nghoed Dylan.

Pryd y gallwn, rydym yn darparu cyfleoedd i ysgolion a chymuned leol, er enghraifft ddosbarthiadau meistr mewn neuaddau pentref, gweithdai theatr mewn ysgolion cynradd a gweithdai creadigol fel egin ein prosiectau.

“Fe wnaeth fy atgoffa pa mor ddylanwadol fu’r diwrnodau hyfforddi hynny. Rydw i mor falch bod Living Pictures yn bodoli. ”…
- Natalie Abrahami (Cyfarwyddwr Theatr)