Stiwdio Actorion
Stiwdio Actorion
Mae ein stiwdios ar gyfer unrhyw actor sydd a diddordeb ag angerdd am ddatblygiad.
Yn Living Pictures, rydym yn teimlo bod rhai prosesau defnyddiol iawn y gellir eu defnyddio a all ddatblygu eich crefft a dyfnhau ymwybyddiaeth. Sail dysgeidiaeth Robbie yw ymarferion ailadrodd Meisner, Stanislavsky a Michael Chekhov. Mae'r ffocws ar y tri ymarferydd hyn wedi'i gyplysu â NLP ac agweddau perthnasol ar Niwrowyddoniaeth. Yn sylfaenol, credwn fod actio yn syml ond y naratif mewnol sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd. Felly, ein nod yw gweithio mewn amgylchedd ddiogel a chefnogol a gwneud y sesiynau'n hwyl ac yn ymarferol a hefyd annog cyd-ddysgu gyda’n cyfoedion.
Mae'r stiwdios yn dymhorol, ond mae croeso i chi gofrestru eich diddordeb. Os mae grwp ohonnoch a diddordeb yna gallwn hefyd deithio atoch chi gyda gweithdy neu gefnogaeth un-wrth-un ar-lein.
I gofrestru eich diddordeb ac am fwy o wybodaeth e-bostiwch: lpworkshops14@gmail.com.
Am Robbie
Derbyniodd Robbie hyfforddiant ysgol ddrama glasurol yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall ac ar ôl graddio a thra’n gweithio yn y proffesiwn teimlai ei fod eisiau parhau i hyfforddi a datblygu fel actor a mynychodd weithdai yn Ysgol Gwyddoniaeth Actio, Stanislavsky gyda Bella Merlin, Sandford Meisner gyda Scott Williams a Michael Chekhov gyda Sinéad Rushe. Ochr yn ochr â hyn cynhaliodd ei ddiddordeb mewn a hyfforddiant gydag elfennau o NLP, Gwyddor yr Ymennydd a gwaith therapiwtig - Eric Berne, Eckhart Tolle a gwaith Constellation.
Mae wedi bod yn actor proffesiynol ers dros dri deg pump o flynyddoedd, gan weithio gyda chwmnïau fel The Royal National Theatre, The RSC, The Royal Court, a Young Vic, a theithio’n rhyngwladol a chwarae yn y West End. Mae’n dysgu i Central, ALRA, Coleg Brenhinol Cymru (stiwdio YAS) a’r PCYDDS (WAVDA). Yr oedd yn fwyaf diweddar yn Y Galon Normal yn y Genedlaethol yn chwarae Ben Weeks. Gallwch weld mwy o'i gofiant yma.

