Haydn Williams

Haydn Williams

Mae Haydn yn fachgen lleol wedi’i eni a’i fagu a gafodd fagwraeth wledig hyfryd ar fferm Penycoed sydd wedi’i lleoli ychydig islaw Capel Smyrna ac yn ymyl Coed Dylan.

Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Llangain ac Ysgol Ramadeg Bechgyn y Frenhines Elisabeth graddiodd o'r Drindod Caerfyrddin ac yna Prifysgol Reading a Chaerdydd. Bu ei yrfa fel athro yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf (ysgol ramadeg olaf Cymru) ac yna yn Ysgol Gyfun Dyffryn Taf ar yr un safle.

Ymysg ei ymrwymiadau mae gwasanaethu fel cynghorydd cymuned sydd ganddo ers ei ddyddiau israddedig ac fel llywodraethwr, Ysgol Llangain gynt a nawr Ffederasiwn Ysgolion Bancyfelin, Llangain a Llansteffan.

Fel Ymddiriedolwr, mae’n gobeithio cyfrannu a sianelu ei frwdfrydedd a’i egni i Brosiect Coed Dylan trwy ddefnyddio ei ystod eang o wybodaeth a phrofiad lleol ac yn rhinwedd ei swydd fel brodor, cynghorydd, llywodraethwr, a hanesydd lleol.