Mae Elen yn llawrydd eto ac ar gael ar gyfer sesiynau hyfforddi mewn cyfarwyddo llwyfan. Os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau dadansoddi testun neu feysydd eraill fel sgiliau arweinyddiaeth neu ddadansoddi profiadau blaenorol, yna gall cymryd peth amser i ganolbwyntio ar eich datblygiad helpu'n fawr. Gall Elen hefyd gefnogi cyfarwyddwyr trwy gysgodi proses fyw ar gynhyrchiad llawn.
Mae addysg Elen wedi'i thrwytho yng ngwaith Maria Knebel ac mae ganddi brofiad uniongyrchol o waith Mike Alfreds yn ogystal â dylanwadau allweddol eraill. Dechreuodd ei bywyd hyfforddi dros bum mlynedd ar hugain yn ôl gyda'r cyfarwyddwr Katie Mitchell OBE ac Ian Rickson.
Mae gan Elen le hamddenol lle gellir trefnu sesiynau i gyd-fynd â'ch anghenion a'ch poced. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch am sgwrs gyflwyniadol i drafod eich maes diddordeb.
Cysylltwch â: lpworkshops14@gmail.com
Llinell Bwnc: Hyfforddi Cyfarwyddwr gydag Elen Bowman


